ARGRAFFWYD, DROS Y CYHOEDDWYR, GAN ALICE WILLIAMS, YN HEOL-Y-BRENIN; AC AR WERTH GAN LYFRWERTHWYR YN GYFFREDINOL. RHAGDRAETH. OMERIAID MYGEDIG, GWEDI ein harwain gan Ragluniaeth yr Iôr tyner hyd at derfyn blwyddyn arall, yr ydym, oddiar ei dibyn, yn ol ein harferiad, yn ysgrifio ein cyfarchiad blynyddol atoch; yn yr hwn goddefer i ni, yn ddiymffrost, lefaru allan ein meddyliau yn onest, heb floesgni na chêl. Yn yr anturiaeth o ddwyn yn mlaen ein Misolyn, amlwg yw ein bod yn gweithredu mewn gwahanol gylchoedd; fod gan bob cylch ei chwareuwyr, a bod i bob chwareüydd ei nodweddion. دو EIN HUNAIN.-Pwy na theimla duedd mewn cysylltiad a gwaith anrhydeddus i siarad am dano ei hunan? Gwyddom fod rhai yn ein beio-dichon eu bod yn llawer; yr ysgrifau yn rhy fyr neu yn rhy faith; yr ieithwedd yn rhy uchel neu yn rhy isel; gormod o amrywjaeth neu o unrywdeb; dywedir ein bod yn euog o gyhoeddi yr hyn na ddylasem ei gyhoeddi, a gadael heb ei gyhoeddi yr hyn a ddylasem ei gyhoeddi, ac "nad oes iechyd ynom.' Hawdd gweled bai, yn enwedig "os bydd y llygad yn ddrwg;" ac mewn llenyddiaeth, hawddach ei weled ar ol dyfod drwy y wasg na chyn myned iddi. Pell oddiwrthym fyddo digio wrth ein beirniaid; nid ydym yn proffesu ein bod yn berffaith; eithr teimlwn barodrwydd i dderbyn cynghor neu awgrymiad, canys nid ydym heb feddu awydd i wneuthur yn well; ac, yn wir, darbwyllir ni gan frodyr o farn a chwaeth ein bod ar ein cynydd : poed gwir eu gair. Amen. EIN GOHEBWYR.-Enaid a choron llenyddiaeth yw y dosparth pwysig hwn o'n cyd-fodau; canys hebddo nid oes onid gwendid a darfodedigaeth. Dengys ein rhestreb yn y Rhifyn presenol, pa un sydd yn cynwys ein rhagdrefn am y flwyddyn ddyfodol, nad yw SEREN GOMER cyn gyfoethoced mewn dim ag yn y peth mwyaf angenrheidiol er iddi fod yn ddyddorawl a llewyrchus, sef ei Gohebwyr. Ni raid iddi yn hyn ofni ymgystadlu ag unrhyw Gyhoeddiad pa bynag ar faes y Dywysogaeth. Ymffrostio yn ddiau nid yw dda; eithr pe ymffrostiai, ymffrostio wnelai, nid yn ei gwendid, eithr yn ei chryfder a'i nerthyn un o brif anhebgorion ei llewyrch a'i defnyddioldeb. Ond nid yw rhestreb yr enwau yn gyflawn-nid ydym wedi treiglo pob careg, na chofrestri pob ewyllysiwr da; eithr y mae heb eu henwi wrolion ereill, cyfeillion calonog i'r SEREN, nas gall eu cyfansoddiadau amgen na swyno darlleniad, a sicrhau clod. RHAGDRAETH. EIN DOSPARTIWYR.-Gofal, ffyddlondeb, doethineb, a gonestrwydd ddysgwylir yn benaf oddiwrthynt hwy: ystyriwn hwynt yn anhebgorion; canys anhyall yw i un cyhoeddiad lwyddo yn Nghymru yn annibynol ar ddosparthwyr o'r nodweddiadau uchod. Pwy, os nid hwynthwy, mewn llawer cymydogaeth, a wna y cyhoeddiad yn adnabyddus? A rhaid ei wneud yn adnabyddus er iddo gael derbyniad; ei ddosparthu yn brydlawn er boddloni y derbynwyr; a chasglu yr arian yn gryno, a'u talu i'r casglydd yn llawn, er i'r cyhoeddiad barhau. Ni ellir heb yr arian gyfarfod treulion yr argraffu, y cludo, a'r casglu; a gadael y rhanfeddianwyr, y gohebwyr, a'r golygyddion heb gymaint a ffyrling goch. Tegwch yw cydnabod fod mwyrif dosparthwyr y SEREN wedi profi eu hunain yn gyfryw fel nad oes galwad am eu gwell; eithr y mae gweddill, nid yn ol etholedigaeth gras, eithr yn ol Dafydd y Crydd, i ba rai nid oes diolch ein bod ni yr awr hon yn ein llyfrgell yn ysgrifenu, ac nid mewn carchar yn cael ein cospi gan gyfraith y wlad am wneud ein goreu i borthi ein cydgenedl â gwybodaeth ac a deall! Achubwn y cyfle hwn i gyflwyno ein diolchgarwch diledrith i'n dosparthwyr ffyddlawn, am eu caredigrwydd a'u cydweithrediad, gan hyderu y bydd iddynt barhau am flwyddyn arall, os Duw a'i myn. EIN DERBYNWYR.-Gobeithiwn eich bod chwi, ddarllenwyr hoff, wedi cael gwerth eich arian o wybodaeth adeiliadol, a maeth sylweddol, yn ystod y flwyddyn sydd yn awr yn terfynu, fel nad oes ynoch y duedd leiaf i gefnu; ac y bydd i chwi ddefnyddio eich dylanwad yn eich gwahanol gylchoedd, nes dyblu eich rhifedi: bydd hyny i ni yn galondid, ac i chwithau yn lles; canys, megys ag y dywedasom yn y dechreu, os bydd rhelyw, caiff y cyhoedd, yn gystal ag unigolion, gydgyfranogi o honaw; bydd llwyddiant y SEREN felly yn gaffawd i chwi. Ein barn er cynt am genedl y Cymry oedd, fod ynddynt syched am ddiwylliant a gwybodaeth; fod eu bryd am lyfrau fel yr ych am borfa, ond yn unig iddynt gael sylwedd ac nid rhith. Mae SEREN GOMER yn amcanu eu diwallu: estyner iddi gefnogaeth, ac na fydded i'w chyhoeddwyr gael eu siomi. Ai gormod gan bob derbyniwr fydd cynyg yn egniol i enill derbyniwr ychwanegol am y flwyddyn ddyfodol? Lle y mae egni y mae llwydd; ac os llwyddir yn hyn, caiff tair mil a rhagor o anedd-dai gyfle i addurno eu parwydydd â Darluniau heirdd o brif enwogion cenedl y Cymry. Bryn-Adlam, 1853. GOLYGYDDION. NID Oes yr un ran o Loegr yn fwy cyfoethog-brwydr a waredodd y wlad odditan ormes mewn dygwyddiadau hanesyddol, o bwys yn ngolwg yr henafiaethydd, na'r swyddi amdrol (Midland Counties). Er nad oes cerflan na chofgolofn yn dynodi'r manau a hyn. odwyd gan ddewrder a duwioldeb ein tadau ya ymladd o blaid rhyddid a gwirionedd, y mae y lleoedd yn gysegredig. Swyddi Buckingham, Huntingdon, Northampton, a Leicester, a ddygant amgylchiadau idd ein meddwl, nid llai dyddorawl nag oedd Platea, Marathon, a Thermopylæ yn mhlith y Groegiaid. Cymerwn daith yn bresenol gyda'r darlenydd i'r olaf o'r siroedd a nodwyd, ac i dref nid anenwog, a elwir Lutterworth. Yr ydym yma yn nghanolbarth Lloegr. Nid pell oddiyma yw Leicester, lle yr arfogodd Khisiard III. ynddo erbyn brwydr Bosworth wr creulawn, a derfynodd "rhyfeloedd y rhosynau," ac a ddechreuodd oes (era) newydd yn ein gwlad. Yn yr un dref y bu farw Cardinal Wolsey, pan yr oedd Protestaniaeth yn cael ei arwain gan Anne Boleyn, am yr amser hwnw yn trechu, a'r Cardinal yn sefyll ar ffordd ei feistr. Yno hefyd yr arbedwyd bywyd John Bunyan, pan drwy ddygwyddiad y gosodwyd un o'i gyd-filwyr yn ei le i wylied dros nos, yr hwn a gyfarfyddodd â'i farwolaeth cyn y boreu; felly y cadwyd bywyd yr hwn, wedi hyny, oedd i fod yn awdwr y llyfr mwyaf poblogaidd yn y byd ond y Beibl. Nid pell o Lutterworth, sef, mewn pentref o'r enw Thureaston, y ganwyd Hugh Latimer. Y tu arall i'r dref y mae y pentref Naseby, enwog am y frwydr yn mha un y dangosodd Cromwell ei allu |