Page images
PDF
EPUB
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][subsumed][subsumed][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][subsumed][subsumed][merged small][subsumed][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

Anfonir yr Haul yn ddidoll trwy y 'Post Office,' i'r sawl a anfonant eu henwau, ynghyd a thaliad am flwyddyn, neu hanner blwyddyn, ym mlaen llaw at y Cyhoeddwr.

AT DDERBYNWYR YR HAUL.

BYDDED hyspys i dderbynwyr yr HAUL, bod y Cyhoeddwr yn fynych wedi cael ei ofidio yn fawr oblegid yr achwyniadau a wneir gan lawer o honynt, o bryd i bryd, eu bod yn methu a chael ein Cyhoeddiad yn brydlon yng ngwahanol barthau y deyrnas; a'i fod o'r diwedd wedi penderfynu symmud ymaith yn hollol bob anhawsderau o'r cyfryw natur. Mae y Cyhoeddwr yn awr wedi cael cydsyniad y Post Master General, i anfon y rhifynnau, ag argraph-nod y llywodraeth arnynt, drwy y Llythyrdŷ, fel ag yr anfonir y Newyddiaduron; ac felly bydd yr HAUL yn nwylaw y derbynwyr erbyn y dydd cyntaf o bob mis drwy yr holl deyrnas, am yr un pris ag y mae yn bresennol; ar yr ammodau canlynol:

I. Bod i bob un o'r derbynwyr fyddont yn ewyllysio derbyn eu rhifynnau drwy y Llythyrdŷ, anfon eu henwau, ynghyd â'r modd y mae eu cyfeirio attynt, at y Cyhoeddwr, Mr. W. Rees, Llanymddyfri.

II. Bod i bob un ag fyddo yn ewyllysio cael eu rhifynnau yn y modd hyn, dalu ym mlaen; naill am hanner blwyddyn, neu am flwyddyn; tri neu chwech swllt. Bod y taliad i gael ei wneuthur mewn Post Office Order, neu mewn Postage Stamps; a sicrheir y bydd i'r rhifynnau gael eu hanfon yn ol y taliadau.

III. Bod i'r archiadau am rifynnau i gael eu gwneuthur cyn y pumthegfed o bob mis.

Mae y Cyhoeddwr, fel hyn, wedi gwneuthur yr hyn sydd yn ei allu at y derbynwyr; ac y mae yn gobeithio y gwna y derbynwyr hwythau yr hyn fyddo yn eu gallu atto yntau.

In the Press, and nearly ready,

Price to Subscribers, 5s.-to Non-Subscribers, 8s.

THE GODODIN,

Illustrated with uumerous annotations, both historical and critical. By the REV. J. WILLIAMS, (AB ITHEL,) M.A. The Gododin, the subject of which is the disastrous battle of Cattraeth, contains upwards of 900 lines, and is the oldest Welsh poem extant having been written in the earlier part of the sixth century.

The proceeds of the Publication will be applied to the restoration of the Church of Saint Tydecho, in the beautiful vale of Mawddy.

Subscribers' names are requested to be sent to the Translator at Llanymawddwy: or to Mr. W. Rees, Publisher, Llandovery.

[ocr errors]

TO CLERGYMEN & OTHERS.

A Schoolmaster connected with the Established Church, not a Training School Teacher, is in want of a fresh Engagement. He has had upwards of twenty years experience in the usual branches of English and Welsh instruction, Mathematics to some extent, Grammar and Parsing, Trigonometry, Geography, Astronomy, Latin, Mensuration of timber and houses, and the rudiments of Algebra. The reasons for his relinquishing his late engagement shall if required be given, not by himself, but by the Clergyman of the place.

Address, Thomas Morgan James, Schoolmaster, Manafon, Welshpool.

ACULEINE

31.8 1914

SIBRARY

NEU

DRYSORFA O WYBODAETH

HANESIOL A GWLADWRIAETHOL,

AM 1852.

"YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI.”
"A GAIR DUW YN UCHAF."

CYFRES NEWYDD.-CYFROL III.

LLANYMDDYFRI:

ARGRAPHWYD A CHYHOEDDWYD GAN WILLIAM REES;

AR WERTH HEFYD

GAN HUGHES A BUTLER, 15, ST. MARTIN'S LE GRAND, LLUNDAIN; T. CATHERALL,
CAERLLEON; A CHAN HOLL LYFRWERTH WYR Y DYWYSOGAETH.

1852.

[blocks in formation]

GYFEILLION ANWYL,

Y RHAGYMADRODD.

Y MAE blwyddyn arall o'n llafur yn ymdynnu at ei therfyn, a bron a chael ei throsi i lechres y blynyddoedd sydd gwedi myned heibio; ac ar derfyniad y flwyddyn hon, yn gystal ag ar derfyniad ein llafur ninnau am y flwyddyn, yr ydym yn teimlo ein hunain dan rwymiadau gwresog o ddiolchgarwch i chwi am eich cynnorthwyon cyfeillgar a roddasoch i'r HAUL yng nghorph y flwyddyn. Ac y mae yn llon gennym i hyspysu i chwi, fod gennym y profion mwyaf diymwad, o fod eich cynnorthwyon chwi, a'n llafur ninnau, yn werthfawr, ac yn gymmeradwy iawn gan niferi lliosog o ddarllenwyr Cymreig, oddi wrth gylch-rediad ein Cyhoeddiad, yr hwn sydd beunydd yn cynnyddu. Y mae allan o gyrhaeddyd gallu dyn i ryngu bodd pawb; canys ni fyn rhai ond eu hwyneb hwy o'r ddalen; ac nid oes i ni ond ymfoddloni ar y derbyniad a'r gymmeradwyaeth ag y mae dynion o ddoethineb, deall, a gwybodaeth, yn ei roddi i'n llafur a'n hymdrechion, a gadael i'n henllibwyr ymddifyru yn eu henllib.

Mae y flwyddyn 1852, gwedi bod yn flwyddyn ag sydd gwedi esgor ar ddigwyddiadau o bwys, a golygfeydd rhyfedd wedi ymdaenu o flaen ein llygaid; ac amgylchiadau rhyfeddol gwedi cymmeryd lle: ond y mae eu canlyniadau etto dan fentyll yr amser dyfodol, ac y mae yn debygol bod yn rhaid i rai o honynt gael yspaid faith cyn cynnyrchu yr effeithiau hynny a ddisgwylir oddi wrthynt.

Pan ag yr edrychom oddi amgylch, y mae y byd mewn berw, ac y mae cynllunwyr cyfundraethau newyddion a gwylltion, yn barnu nad adferir ef i lwyddiant a llonyddwch, oni fyddo iddo gael ei reoli ganddynt hwy a'u cyfundraethau. Mae cyfnewidiad o bwys gwedi cymmeryd lle yng nghyflwr gwladwriaethol ein gwlad ni, yn y flwyddyn 1852; rhoddodd Arglwydd John Russell a'i gyd-weinidogion, awenau y llywodraeth fynu i'r Diogelwyr; ac yr ydym yn gobeithio y bydd i'r rhai hyn brofi drwy eu mesurau a'u gweithrediadau, eu bod yn Ddiogelwyr, ac mai nid eu cam-enwi felly a wneir. Ymddengys i ni bod ymddiriad y wlad yn y Weinidogaeth bresennol, canys y mae pob peth yn bywioccau ac yn ymddyrchafu o'r iselderau marwaidd yr oeddynt ynddo dan yr hen Weinidogaeth. Mae yr hen amser da' a addewid i chwi gan yr hen Weinidogaeth, fel yn dyfod,' ac megis wrth y drws, a hynny oblegid ymddiriad y wlad yn y Weinidogaeth newydd bresennol. Mae prisiau nwyddau amaethyddol yn cyfodi; a phob masnach yn dadebru o'r cwsg y bu ynddi; priodolir hyn gan rai i amlder yr aur a ddilyfa i'r deyrnas; eraill i Weinidogaeth Arglwydd Derby, a chan eraill i'r ddau ynghyd; ond yn bennaf, yr ydym yn ddyledus am ein llwyddiant i fendith Duw Hollalluog ar y wlad, am yr hyn y dylai ein calonnau fod yn ddiolchgar, a'n gweddi beunydd arno ddylai fod, ar iddo barhau tywallt ei fendithion graslawn arnom yn ysprydol a thymhorol.

[ocr errors]

Mae Eglwys ein tadau, a'n Heglwys ninnau hefyd, ym mhair blinder, ac megis mewn ffwrn danllyd; ond gan fod llyw ei llywodraeth yn y nef, ac nid ar y ddaear, diau y goruwch reolir pob peth er ei daioni yn y pen draw, ac y daw allan o'r ffwrnes fawr fel aur gwedi ei buro drwy dân. Mae y drwg wedi ei fagu a'i feithrin yn yr Eglwys er ys oesau, ac ar y cwbl, nid rhyfedd ei bod yn awr yn dioddef; llyngewyd gwenwyn Rhufain, ac y mae effeithiau y gwenwyn hwn i'w weled yn amlwg yn y gwrthgiliadau ag sydd wedi, ac yn cymmeryd lle; ac i'w gweled hefyd yn yr ymrysonau blinion ag sydd yn gymmaint o achos galar i'r rhai a ddymunant heddwch a llwyddiant Jerusalem. Diau bod cam-drefniadau Eglwysig wedi bod, a dichon, yn parhau i fod yn un o achosion ei blinderau; a dichon y bydd yn rhaid i'r Eglwys Gymreig ddioddef am ryw hyd etto oblegid cam-drefniadau yr amseroedd sydd gwedi myned heibio; canys nid gorchwyl hawdd ydyw uniawni yr hyn a gammwyd; er i'r Preladiaid wneuthur eu goreu tu ag at hynny.

Pan ag yr edrychom i Gyfandir Ewrop, ni welir ond yspryd gormes ac anfoddlonrwydd yn y nifer fwyaf o'r teyrnasoedd. Ymddengys bod Ffraingc megis ar gopa mynydd tanllyd, yn barod i dorri allan mewn cymmysgedd, aflywodraeth, a dinystr;-mae y wreichionen leiaf yn ddigon i gynneu y tân mwyaf arswydus a difaol. Mae Awstria yn rheoli ei deiliaid â gwialen haiarn; Rwssia a fala ei phobl yn ysgyrion rhwng y meini trymion; Prwssia, er yn fwy tyner o honynt, etto, a gaethiwa y bobl mewn llyffetheiriau; Denmarc a'r taleithiau cymmydogol sydd mewn ymrafaelion tragywyddol â'u gilydd; ac yn Rhufain, mae y Pab yn cael ei gadw ar ei draed drwy nerth bidogau y Ffrangcod; ac oni bai y rhai hyn, byddai efe yn grwydryn yn ffoi am ei fywyd; ac yn cardotta lletty o fan i fan.

« PreviousContinue »